"Mae Bev yn gwneud cyfraniad gwerthfawr gyda agwedd broffesiynol gyda’r gwaith y mae hi’n gysylltiedig ag ef, gyda mi"
Steve Thacker
Cytundeb
Prosiect Hunan Ddatblygiad Ddu. ‘Roedd Empower yn ymwneud a chefnogi Ymddiriedaeth Gweithredu Llundain gyda chychwyn prosiect a datblygu Prosiect Hunan Ddatblygiad Ddu. Yn tarddu o ganfyddiadau Adroddiad McPherson i mewn i hiliaeth sefydliadol o fewn Heddlu Metropolitan ac asiantaethau statudol eraill anelodd y prosiect hwn tuag at dargedu troseddwyr ifanc du o fewn deuddeg o fwrdeistrefi Llundain. Pwrpas y rhaglen yma a ysgrifennwyd gan Academydd Du Empower sef, Trevor Sinclair oedd ymgysylltu’r deuddeg Tîm Troseddau Ieuenctid gyda’r rhaglen, recriwtio tîm o staff i weithredu’r prosiect a nodi’r partneriaid allweddol i’r prosiect gan gynnwys Fforwm Llundain Ddu;Fforwm Busnes Du a’r Swyddfa Cartref..
"Effeithlon iawn….. Bev, ‘roedd yn bleser gweithio gyda chi."
Steve Thacker
Cytundeb
Ymgymerodd Empower gwerthusiad dros dor o’r Prosiect Bywyd Newydd a oedd yn darparu cynllun broceriaeth rhwng cyflogwyr a throseddwyr, rheoli datgelu troseddau a darparu cefnogaeth a chyngor i’r cyflogwyr a oedd yn fodlon cyflogi cyn-droseddwyr.
"Diolch i chwi am eich ymrwymiad parhaus drwy gyfnod anodd iawn;’Rwyf wedi ei werthfawrogi."
Mary Hopkins
Cytundeb
Cymerwyd swyddogaeth y bartneriaeth o fewn CGG Swydd Northampton gan Empower ar sail rheolaeth dros dro. ‘Roedd y swyddogaeth yn cynnwys ail-lansio Cytundeb(Compact) a mewnosod ar draws y sectorau; datblygu prosiect partneriaeth a ariannwyd gan Ganolfan Adnoddau Arbenigol sy’n ymwneud a Chyngor Northampton
"Roedd y cyfathrebu yn rhagorol ac roedd y gwasnaeth yn hyblyg ac Ystwyth ar gyfer ein anghenion….gwaith gwych ar gyhoeddusrwydd."
Tricia Pick
Cytundeb
Prosiect agoriadol a datblygu’r brosiect Paratoi ar gyfer Cyflogaeth ar ran Gwasanaeth Prawf Llundain a oedd yn raglen hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer y rhai o fewn Gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol. ‘Roedd yn cynnwys gwaith partneriaeth sylweddol gyda thimau prawf ar draws Llundain a chreu sustemau monitro ar gyfer mesur targedau.
"Mentrodd Bev ar ein rhan i godi gyda phartneriaid perthnasol………trylwyr iawn a ."
Alison Leake
Cytundeb
cymerodd Empower y blaen mewn datblygu Strategaeth Ehangu Cyfranogiad ar gyfer Gwasanaeth Oedolion ac Addysg gymunedol Bwrdeistref Hounslow Llundain a chyflwyno’r strategaeth i’r tîm oll.
"Wedi bod yn eglur iawn gyda cfyfathrebu, defnydd da o e-bost"
John Trainor
Cytundeb
Rhaglen Cyllideb Adfywio Unigol oedd O Droseddu I Gyflogaeth a leolir yn Llundain a oedd yn gweithio gyda throseddwyr ifanc er mwyn eu symud oddi wrth ymddygiad troseddol tuag at gyflogaeth sefydlog a pharhaol. Gweithiodd ODIG gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Clwb Peldroed West Ham, Clwb Peldroed Leytron Orient a Rhwydwaith Coleg Agored I ddarparu cyfleoedd hyfforddiant achrededig. Rheolwyd Empower y rhaglen yma ar sail rheoli dros dro ac yna arwain ar strategaeth ymlaen/ymadael ar gyfer y cynllun pan ddaw’r cyllid i ben
"Nid swyddogaeth hawdd a ninnau yng nghanol newid ac yn y gwasanaeth……..buasem yn defnyddio Bev Garside eto!"
John Fitzpatrick
Cytundeb
Arweiniodd Empower Asesiad Effaith ar ran Gwasanaeth Oedolion a Chymunedol. ‘Roedd yr asesiad effaith yn canolbwyntio ar recriwtio; lefelau dargadwedd a chyraeddiadau'r myfyrwyr oll gan ganolbwyntio ar ddysgwyr iau; dysgwyr hyn ; dysgwyr ag anabledd a dysgwyr o grwpiau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig. Adolygodd Empower ddeunydd marchnata; y broses cofrestru ; mynediad i’r cyfleusterau a’u gallu cyfredol i gyrraedd anghenion y cyfranwyr er mwyn iddynt gael mynedfa a chyflawni o fewn y Gwasanaeth I Oedolion ac Addysg Gymunedol. Cyflwynwyd y data ystadegol mewn adroddiad i staff allweddol addysg oedolion gydag argymhellion ar gyfer gwelliannau.
"Dw’n im be sw ni wedi gwneud heb Bev……..Rhagorol, gwasanaeth ymatebol sy’n broffesiynol dros ben”. “Rhagorol ar bob amser……mae swyddogion o fudiadau eraill wedi sylwebu ar ba mor dda yw Bev Garsside a pha mor sydyn i’w i gydio mewn manylion cymhleth prosiect, arlliw a ffynonellau cyllidol. Mae Empower wedi darparu amrywiaeth helaeth o wasanaethau ar ein cyfer e.e. digwyddiadau adeiladu tîm a.y.y.b. Buaswn yn sicr yn defnyddio Empower eto ac yn argymell nhw fel mudiad trefnus a gofalgar sy’n credu mewn darparu cynlluniau sy’n grymuso ac o fantais i’r gymuned.
Empower worked with us to close down a difficult Single Regeneration Budget programme after the original programme manager died.
The organisation grasped the issues related to working on such a scheme in a rural area, they developed good working relationships with the community and devised suitable processes and monitoring frameworks which satisfied all the funders. They were able to support community organisations through the process and also provided the secretariat to the grant appraisal panels to ensure that all processes were transparent and open.
Empower managed the funds well and were able to make sense of some really awkward financial claims and processes that had to be improved after the death of the previous manager.
Empower have also since delivered a range of other services to us eg team building events etc. I would definitely use Empower again and can recommend them as an organised and caring organisation that believe in delivering schemes that benefit and empower the community. "
Suzanne Fysh: Regeneration Services Manager
Cytundeb
Ymgymerodd Empower a nifer o gytundebau ar ran Cyngor Dosbarth Gorllewin Lindsey, yr un cyntaf oedd Rheolaeth Dros Dro o’r Bartneriaeth Ardal Datblygu Gwledig (rhaglen a ariannwyd drwy Gyllideb Adfywio Unigol).’Roedd y gwaith hwn yn cynnwys trafodaeth gyda Tesco Plc ynglŷn â gweithredu Canolbwynt Trafnidiaeth Gwledig fel rhan o gyllid Adran 106. Arweiniodd Empower ymarferiad cynllun Meistr bychan o’r trefi marchnad - Caistor a Market Rasen ac wedi rheoli’r arolwg busnes blynyddol ar gyfer Gorllewin Lindsey ers rhai blynyddoedd.
"Rydych wedi gweithio’n gyson uwchben a thu hwnt I’r gytundeb gwaith gytunedig…Hoffwn ddiolch I Bev am ei chymorth a’I chefnogaeth, mae hi wedi bod yn ased anhygoel a ni fuasa DCEN wedi goroesi."
Maureen Colohan
"Er pan yn gweithio i amserlen dynn….fel ddoe!"
Brenda Bell
"Mae’r gwasanaeth a dderbyniwyd wedi bod yn wych a Bev wedi ein helpu i gyflawni mwy nag yr ydym yn meddwl y bo modd……Mae Bev wedi gweithio’n agos gyda’r weithrediaeth ac ‘rydym wedi datblygu blaenoriaethau gyda’n gilydd………….pob amser yn broffesiynol."
Jeanette Stephenson
"Darparodd Bev wasanaethau a oedd tu hwnt i alwad dyletswydd! Arhosodd yn gadarn wrth wynebu methiannau siomedig ar ran y cleient gwreiddiol."
Michael Hurlow - County Durham Foundation
Cytundeb
Daethpwyd a Empower i mewn gan swyddfa’r llywodraeth Gogledd-ddwyreiniol er mwyn cefnogi’r strwythur newydd a ariannwyd drwy gyllid adnewyddu cymdogaeth. Buom yn gweithio gydag aelodau o’r rhwydwaith i sicrhau bod y mudiad yn dryloyw ac yn atebol. ‘Rydym wedi helpu datblygu cynllun partneriaeth weithiol ac effeithiol fel y gall Rhwydwaith Grymuso’r Gymuned i gymryd rhan gyda’r Bartneriaeth Strategaeth Lleol ac i ddatblygu strategaeth a ffynonellau chyllidol a fyddai’n cefnogi mudiadau 3ydd Sector lleol.
"Radd flaenaf ar gyfer eglurder, dadansoddiad ac argymhellion ymarferol” “Cadwch i fyny a’r safonau uchel."
Tom Williams
Cytundeb
Ymgymerodd Empower ag arolwg busnes ar ran Cymunedau’n Gyntaf Cwm Aman Uchaf drwy gysylltu gydag oddeutu 300 o fusnesau lleol er mwyn sefydlu eu hanghenion o ran sgiliau, cymwysterau a phrofiad. Darparodd yr arolwg arweiniad i’r bartneriaeth ar gyfer y mathau o hyfforddiant a chefnogaeth yr oedd trigolion lleol eu hangen er mwyn iddynt allu cystadlu’n effeithiol am swyddi lleol.
"Hyfforddiant rhagorol, wedi eu teilwra ar gyfer anghenion unigol, ac yn cael eu cyflwyno mewn dull cwbwl cynwysedig."
Lesley Hughes
Cytundeb
Paratodd Empower gyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant ar gyfer Shotton Uchaf gan gynnwys digwyddiadau preswyl gyda’r Bwrdd Partneriaeth. Ymgymerwyd ag arolwg busnes o fusnesau lleol; adnabod bylchau sgiliau ac adnabod pa fusnesau a fyddai’n fodlon cyflogi pobol ddi-waith tymor hir a’r rhai gyda chyfrifoldebau gofalu. Y canlyniad i Cymunedau’n Gyntaf Shotton Uchaf oedd adroddiad manwl yn darparu data cyfoes, dilys ynglŷn â’r sgiliau a’r profiad yr oedd busnesau lleol eu hangen. Ac yn dilyn o’r gwaith hyn gwnaeth Shotton Uchaf gysylltiadau gyda fforwm busnes lleol a nifer sylweddol o fusnesau lleol.
"Mae Bev a’i staff wastad wedi bod mewn cyswllt gyda mi drwy gydol y broses yma, wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi heb amharu ar fy amser. Defnyddiol iawn yn enwedig gyda’r capasiti presennol. Mae Bev wedi diwygio ei chytundeb gyda ni ddwywaith, heb rwgnach a dwi ddim yn meddwl y gallai arddull y wybodaeth a ddarperir drwy gydol gael ei ragori."
Sue Jobbins
Cytundeb
Gwahoddwyd Empower gan Gyngor Sir Northamptoni sicrhau bod yr Awdurdod lleol yn llwyr gydymffurfio mewn paratoad ar gyfer ei Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr( gan ganolbwyntio ar eu hymrwymiad i gymunedau). ‘Roedd hyn yn cynnwys darparu sesiynau cyfarwyddo i reolwyr a staff rheng flaen er mwyn sicrhau bod pob un yn deall yr ymrwymiadau a wnaeth yr Awdurdod Lleol i’r Gytundeb Cyd Asiantaethau gyda’r 3ydd Sector. Datblygodd Empower gyfres o sesiynau e-briffiau er mwyn darparu gwybodaeth allweddol mewn tameidiau bach ar gyfer y staff oll a datblygu Llawlyfr Cyfansoddedig a greuwyd ar ffurf caled a gafodd hefyd ei uwchlwytho ar wefan y Cyngor.
"Mae Bev yn gweithio’n galed iawn ac yn darparu gwir werth am arian. Mae trigolion Cwm Dollis yn wirioneddol ei hoffi a’i hedmygu. Mae Bev wedi darparu arddull gadarn sy’n canolbwyntio ar bobol sydd yn ei dro wedi creu cynhwysedd a brwdfrydedd ymysg trigolion Cwm Dollis. Mae’r hwb yma i weithgaredd cymunedol yn amhrisiadwy i ni yn ein gwaith
"
Ann Frankel
"Mae hyn wedi bod yn rhagorol. Mae Bev wedi rhoi amser ychwanegol i sicrhau bod pethau’n cael eu dilyn i fyny. Darparu gwasanaeth dylunio a phrintio wedi bod yn ased gwirioneddol……Mae dull Bev wedi cynhyrchu adborth pendant oddi wrth breswylwyr a swyddogion. Mae hyn wedi bod yn hwb go iawn i Gwm Dollis."
Caroline Mitcham
Cytundeb
Daeth Empower i mewn i weithio gyda chymuned i ddatblygu grŵp trigolion agored ac atebol a allai Bwrdeistref Barnet, Llundain ymgynghori a hwy ynglŷn â throsglwyddo Cartrefi Barnet i Warden Gymdeithas Tai. ‘Roedd y Swyddogion Cyfranogiad Tenantiaid wedi gweithio gyda’r grŵp presennol ond wedi cael trafferth i ddatblygu’r grŵp i gynrychioli’r gymuned oll. Cysylltodd Empower gyda’r holl drigolion a helpu i ddatblygu rhwydwaith o denantiaid ac aelodau preswyl a chefnogaeth budd-ddeiliadwyr allweddol gan gynnwys: Yr Heddlu; Y Gwasanaeth Ieuenctid; Coleg Barnet; Bwrdeistref Barnet, Llundain ac amryw grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae rhwydwaith Cymuned Cwm Dollis a ffurfiwyd yn adlewyrchu’r gymuned a gyda’r gorchymyn i ymgynghori ar ran y trigolion.
"Gwerthfawrogwn eich ymagwedd ymarferol ac arddull ddi-lol a gwell gennym eich pecyn yn hytrach na chomisiynu ymgynghoriaeth ar raddfa ddyddiol. Bydd gwerthusiad beirniadol allanol ynghyd a phroses newydd Cyngor Sir Caint yn ein galluogi i symud ymlaen a hyn."
Anne Cullen
Cytundeb
Arweiniodd Empower Asesiad Effaith ar ran Gwasanaeth Addysg Oedolion Cyngor Sir Caint. ‘Roedd yr asesiad effaith yn canolbwyntio ar recriwtio; lefelau dargadwedd a chyraeddiadau ymysg nifer o grwpiau dysgwyr gan gynnwys dysgwyr hyn; dysgwyr ag anabledd; dysgwyr o gymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig. ‘Roedd yr adroddiad yn cynnwys adolygiad o bob polisi a chanllaw cydraddoldeb ac effeithiolrwydd eu gweithrediad. Adolygodd Empower ddeunydd marchnata'r mudiad i sicrhau ei gynnwys a’i neges ac yn olaf meincnodwyd demograffig y dysgwyr yn erbyn gwybodaeth ddemograffig y gymuned ac oedd gennym er mwyn darganfod os oedd y mudiad yn cyrraedd anghenion y gymuned oll.
"[‘Rwyf] yn credu bod y gwasanaeth presennol yn rhagorol ni allaf feddwl am unrhyw newidiadau angenrheidiol……..gwasanaeth rhagorol, effeithlon iawn….cadwch i fyny gyda’r gwaith da."
Lisa Dundee
Cytundeb
Mae Empower wedi arwain 2 astudiaeth gwerthuso a chynlluniau busnes ar ran Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Porthyfelin ynghlwm a phrosiectau mentrau cymdeithasol posibl ym Môn. ‘Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant penodol ar gyfer y bartneriaeth a bob amser yn llawn edmygedd tuag at led eu Gweledigaeth.
"Tarodd Bev Garside y ddaear gan redeg, cefnogol iawn, gwasanaeth rhagorol. ‘Rwyf yn llawn hyder."
Sandra Ugalde
Cytundeb
Gwnaeth Prosiect Addysg Oedolion reoli a danfon rhaglen a ariannwyd gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ar gyfer cynnal hyfforddiant archredig Lefel 1 a 2 i fyfyrwyr anhraddodiadol.