Mae gan Empower – Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol brofiad o gynllunio a hwyluso dyddiau i ffwrdd i staff sy’n darparu nifer o swyddogaethau.
Mae ein hagwedd bob amser yn gadarnhaol.
Yn ogystal â hyfforddiant, mae Empower yn cynnig ystod o wasanaethau i gyrff yn y sector gwirfoddol a chymunedol a phartneriaethau adfywio.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
As there is increasing demand for multi agency partnership working, the challenge is to ensure this mixture of aims, cultures and priorities can come together to achieve real progress. Partnerships like negotiation require honesty, the ability to see other people's viewpoint, to move on things that are not. Empower has worked with a wide range of agencies including Government agencies, the private, public and voluntary sectors to create structures and understanding which enables multi agency partnerships to work. Empower is offering a free toolkit which will enable you to plan or review the effectiveness of your partnership. See below for details. A member of the Empower team can work with your organisation or partnership to establish protocols, identify shared goals and promote shared understanding which will enable the multi agency partnership to begin and continue to be effective. Call Empower Support for the Voluntary Sector now to discuss your partnership needs. We are here to help! 01443 749787
Partnership Development Toolkit
Mae yna adegau pryd mae prosiect neu fudiad yn profi materion hollbwysig sydd angen camau cyflym a phendant. Weithiau mae’r staff neu’r ymddiriedolwyr nail ai heb y profiad neu’r hyder i ymyrryd er mwyn sicrhau newid eu hunain. Mae gan Empower hanes sylweddol mewn hwyluso’r newid yma. ‘Rydym yn cefnogi staff, taclo’r materion ac ail-gysylltu partneriaeth, gan adael y mudiad pan gaiff ei gryfder llawn yn ôl a phryd mae hyder mewnol ac allanol wedi dychwelyd.
Bwrdd ymddiriedolwyr neu fwrdd o gyfarwyddwyr yw prif strategaeth mudiad elusennol ac yn aml mae unigolion yn ymgymryd â swyddogaeth ymddiriedolwr heb wir ddeall pwysigrwydd y rôl. Ambell waith daw byrddau ymddiriedolwyr yn negyddol neu aneffeithiol and gallem ni ymyrryd er mwyn gweithio gyda’r mudiad er mwyn cynorthwyo’r bwrdd i ail ganolbwyntio a gwerthuso eu safle. Mae’r ymyrraeth yma yn un heriol ac atgyfnerthol ac wedi cael effaith dwys ar nifer o fyrddau.
A yw eich prosiect neu fudiad yn gwynebu diwedd ffynhonnell ariannu allweddol? Gadewch I Empower weithio gyda staff ac ymddiriedolwyr i gynorthwyo gwaredu strategaeth ymlaen a fydd yn galluogi chwi i symud o un ffynhonnell ariannu i un arall ac i ddatblygu ffynonellau incwm i sicrhau cynaladwyedd hir dymor.. Peidiwch â disgwyl tan mae hanner eich staff wedi cael swyddi newydd; rhowch eich strategaeth ymlaen yn ei le nawr a sicrhau dyfodol eich mudiad.
Mae yna bwysau cynyddol ar fudiadau'r 3ydd sector i ddatblygu ffynhonellau incwm drwy fasnachu ac sydd angen dull ymdrin hollol wahanol i gynhyrchu incwm drwy nawdd. Gallem helpu mudiadau gynhyrchu dull mentrus tuag at fasnachu ac i sefyll allan mewn marchnad orlawn. Gallem helpu chwi ddatblygu strategaeth marchnata, strategaeth datblygu busnes a dangos i chwi sut i gadw cwsmeriaid. Gadewch I Empower rannu cyfrinachau am eu llwyddiant gyda’ch mudiad a chynyddu eich incwm yn gyflym drwy fasnachu.
Gweithiwn yn unigol neu mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i helpu pobol leol ymrwymo mewn strwythurau gwneud penderfyniadau lleol. Arbenigwn mewn cynnwys y grwpiau hynny sydd wedi’u heithrio’n draddodiadol oddi wrth ddemocratiaeth leol a sicrhau bod grwpiau cymunedol yn adlewyrchu’r gymuned y maent yn eu cynrychioli.
Gall Empower ddarparu cyngor a chefnogaeth adnoddau dynol pwrpasol. Pa un ai newydd gychwyn mae’r mudiad, neu’n gwynbeu mater adnoddau dynol neilltuol, gweithiwn gyda staff ac ymddiriedolwyr i ddatblygu gwybodaeth a gallu, sicrhau bod ganddoch y trefnau priodol mewn lle i reoli staff a materion staff yn gywir.
Yn aml mae oedi cyllidol yn golygu bod prosiectau yn ceisio dal i fyny gyda chwrdd â thargedau wrth geisio recriwtio staff allweddol. Mae Empower yn brofiadol mewn sefydlu prosiectau newydd o’r cychwyn cyntaf er mwyn creu prosesau monitro, ffurfio grwpiau llywio, creu polisïau a gweithdrefnau a dechrau gwireddu canlyniadau, tra caiff staff eu recriwtio. Gallwn dynnu'r prosiect yn ôl mewn ymateb i lithriad er mwyn trosglwyddo prosiect llwyddiannus i staff sy’n dod i mewn.
Mae Empower wedi cynllunio a hwyluso nifer o gynadleddau proffil uchel a gallwn wneud eich digwyddiad chi’n llwyddiant. Gallwn helpu annog nawdd i dalu cost y digwyddiadau, drwy i farchnata a sicrhau eich bod yn cyrraedd eich rhifau anfogion. Bydd Empower yn ymgysylltu chwi pob cam o’r ffordd i sicrhau bod y digwyddiad yn adlewyrchu arddull a gwerthoedd eich mudiad ac yn codi eich proffil o fewn y maes yr ydych yn gweithio ynddi.
Mae Empower yn darparu ystod eang o weithgareddau i ddatblygu timau i ddarparu digwyddiad neilltuol ar gyfer adeiladu timau i chi sy’n cynnig cymysgedd o hwyl a digwyddiadau hygyrch yn ymwneud ag adeiladu timau a datrys problemau’r tîm. Rydym eisoes wedi galluogi i nifer fawr o dimau ddatblygu mwy o ddealltwriaeth ac ymateb gyda’i gilydd i faterion sy’n effeithio ar eu sefydliad.
Mae gennym o fewn y tîm reolwyr gydag arbenigedd a chymwysterau Asiantau Newid a gallant helpu staff hŷn i reoli eu sefydliad drwy’r broses newid. Rydym yn cymryd y tîm cyfan gyda ni ac yn sicrhau y cedwir gwrthwynebiad i isafswm a bod y staff i gyd yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi.
A oes gennych swydd yr ydych yn cael anhawster ei llenwi? Neu a oes arnoch angen rhywun ar sail hyblyg i weithio yn lle rhywun ar absenoldeb mamolaeth neu salwch? Mae ein rheolwyr dros dro yn arfer gweithredu ar lefel hynod uchel a byddant yn barod i ddechrau gwaith ar unwaith. Mae pob un yn dod gyda chymorth gweinyddol a chefnogaeth tîm o arbenigwyr i sicrhau yr ymdrinnir â phob agwedd o’r swydd. Manteision defnyddio rheolaeth dros dro yw bod gennych rywun i weithio yn lle pobl eraill pan fo angen hynny cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol. Nid ydym yn codi ffioedd recriwtio ac rydych yn arbed ar gostau hysbysebu.
Mae Empower yn unigryw o ran ehangder yr arbenigedd sydd gennym i’w gynnig i unrhyw sefydliad sy’n mynd drwy’r gwasanaeth cynllunio. Gwneir y gwaith ar lif arian a rhagfynegi gan Keith Simmonds, cyn-reolwr banc a weithredodd ar lefel uwch yn datblygu busnesau bychain.
Mae gennym o fewn ein tîm hyfforddwyr a mentoriaid proffesiynol cymwysedig ar ddarparu cymorth unigol ac i dimau drwy hyfforddi swyddogion gweithredol, hyfforddi ar gyfer bywyd a mentora. Cydnabyddir hyfforddi fel un o’r dulliau mwyaf uniongyrchol ac effeithiol o ddatblygu’r unigolyn a datblygu’r sefydliad ac mae Empower yn dod â’r syniadau diweddaraf i’r sector am brisiau fforddiadwy.
Gall tîm Empower ddarparu arbenigedd proffesiynol yn ymwneud â chyllid a chyflenwi i sefydlu pa mor ymarferol yw prosiect cyn bod grŵp yn buddsoddi amser ac adnoddau gwerthfawr ynddo. Gallwn hefyd ddarparu astudiaeth ymarferoldeb i gefnogi’r broses o gynllunio busnes. Mae gennym sylw gwirioneddol dda i’w ychwanegu yma ond bydd Tracy a minnau yn ei ychwanegu pan fydd y safle yn gweithredu. Fedra i ddim dod o hyd iddo ar y funud.
Mae gennym brofiad sylweddol o ymgysylltu â hyd yn oed aelodau mwyaf bregus ein cymuned ac mae ein tîm profiadol yn gweithio i sicrhau a chlywed llais pawb. Gallwn fynd o ddrws i ddrws, hwyluso grwpiau ffocws a defnyddio ffôn i gasglu gwybodaeth. Mae gennym lawer sy’n barod i dystio i’n llwyddiant yn y maes hwn.
Ffôn: 01443 749787
Symudol: 07904 109277
Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd, Ty Menter, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN
© Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd (2012), Cedwir pob hawl