Cofrestru | Pam Cofrestru? | Mewngofnodi
View this site in English

Mae Empower yn falch o gefnogi:

Empower Detholedig

Buddion yn cynnwys:Y cyfle i ffurfio partneriaethau gyda busnesau a’r sector elusennol; gostyngiadau ar weithgareddau a hyfforddiant; rhwydweithio; blaenoriaeth archebu a llawer mwy….

Yn agored i sefydliadau o’r sectorau preifat, cyhoeddus a’r 3ydd, dyma’r unig le i fod os yr ydych yn dymuno codi eich proffil, datblygu perthynasau gyda phartneriaid a chwsmeriaid potensial a mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd hysbysebu heb ei ail.

Mae aelodaeth flynyddol i Empower Detholedig yn cynnig rhagarchebu a gostyngiadau ar ein holl gynnyrch a gwasanaethau: mynediad i dros 6000 o sefydliadau o’r sector gwirfoddol, sector statudol a’r sector breifat ac amrywiaeth o gyfleoedd hysbysebu drwy’r cwmni Cymraeg proffil uchel, mawr ei barch.

Ystafell Werdd aelodau yn unig

Bydd pob digwyddiad cynghadleddol Empower yn cynnwys “Ystafell Werdd” i’r aelodau yn unig gyda mynediad at luniaeth drwy’r dydd; cyfle i gyfarfod gyda siaradwyr gwadd un ai cyn neu yn ystod y digwyddiadau, a man rhwydweithio neu i ddal i fyny gydag e-byst.

Byddwch yn derbyn mynediad unigryw i groesawiad cyn digwyddiad a digwyddiadau rhwydweithio aelodau yn unig.

Buddion digwyddiadau

Fel aelod o Empower Detholedig, byddwch yn derbyn rhybudd blaenllaw o dicedi ar gyfer pob digwyddiad, gan gynnwys cynadleddau, hyfforddiant, rhwydweithio a digwyddiadau cymdeithasol.

Byddwch yn derbyn seddi wrth gefn ar gyfer pob cynhadledd gan sicrhau y cewch y seti gorau heb orfod cyrraedd yn fuan.

Proses gofrestru penodol yn golygu na fydd raid i chwi aros a mynediad i’n Ystafell werdd unigryw cyn ac yn ystod y digwyddiad.

Gostyngiadau Aelodau

Fel aelod o Empower Detholedig, y byddwch yn derbyn 10% oddi ar pob hyfforddiant a dirprwyo lleoedd ar gyfer pawb yn eich sefydliad and delegate places for everyone in your organisation.

Byddwch yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar arddangos; cyfraddau gostyngol ar fewnosodiadau mewn pecynnau dirprwyol a hysbysebu rhaglen gyda gostyngiad 10% oddi ar gynnyrch gan gynnwys llawlyfrau pecynnau cymorth, dvd rhyngweithiol ne e-lyfrau.

Cyfleoedd Hysbysebu

Fel aelod o empower Detholedig, bydd eich sefydliad yn derbyn cyfleoedd arddangosfa ostyngedig ymhob cynhadledd a digwyddiadau Empower gan gynnwys rhagarchebu.

Bydd eich aelodaeth yn eich galluogi i hyrwyddo eich digwyddiadau ac apeliadau drwy gynnal, nawdd a rhwydweithio (costau ar gael ar gais).

Mae Empower Detholedig yn darparu mynediad i benawdau baner ar wefan Empower (costau a chyfraddau taro cyfredol ar gael) ynghyd a hyrwyddiad drwy ein rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol helaeth.

Caiff aelod Empower Detholedig mynediad unigryw i farchnata drwy ein e-bwletin sy’n cael ei ddosbarthu i 6000 o’n cysylltiadau ar fas-data Empower (costau a chydraddau dosbarthu ar gael).

Byddwch hefyd yn derbyn y cynnig i gymryd rhan ac i arwain gweithdy neu ddigwyddiad ar y cwr ble’n addas sy’n darparu cyfle eithriadol i chwi ddenu cwsmeriaid ac arddangos eich arbenigedd.

Hyd yn oed fwy o fuddion

Aelodaeth Sefydliadau'r 3ydd Sector

Fel aelod 3ydd sector o Empower Detholedig, byddwch yn cael mynediad at amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion a gall gefnogi eich sefydliad a’ch helpu i hyrwyddo eich gwaith.

Rhoddir digwyddiadau rhwydweithio unigryw y cyfle i chwi weld cwmniau gyda diddordeb yn y 3ydd sector a’r potensial i ddatblygu perthnasau ystyrlon a mynedfa i wybodaeth a sgiliau a fydd yn eich galluogi i gyflawni eich nodau.

Bydd aelodau 3ydd Sector yn derbyn rhybudd ymlaen llaw o gyrsiau hyfforddi poblogaidd gyda gostyngiad o 10% ar bopeth a ddarparwn. Byddwch yn cael cyfle i gynnal digwyddiadau elusennol sy'n ymwneud â chwmnïau gwerth dylanwadol uchel ynghyd â mynediad i gyflenwyr, partneriaid neu ymddiriedolwyr efallai yn y dyfodol.

Cost £225.00 a TAW y flwyddyn.

Lawrlwytho ffurflen gais

Aelodaeth Cwmni Sector Preifat

Rhoddir Empower Detholedig cyfle unigryw i gael mynediad at dros 5000 o fudiadau sector gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr ac i ymgysylltu a chwsmeriaid posibl/partneriaid drwy ein rhwydweithio, cynadleddau a chyfleoedd arddangos.

Mae ein cynadleddau poblogaidd yn weld mannau arddangos yn gwerthu allan misoedd cyn y digwyddiad ac ‘rydym yn gwarantu cynulleidfa llawn gwneuthurwyr penderfyniadau a staff uwch o fewn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat. Cydnabyddir hyfforddiant Empower eisioes ymhlith y gorau yng Nghymru o fewn y 3ydd Sector.

Mae’r hyfforddiant perthnasol a hynod gost-effeithiol hyn yn bellach ar gael i gwmnïau'r sector preifat. Mae aelodaeth Empower Detholedig yn cynnig ffordd lai costus o godi proffil eich cwmni a chyrraedd cwsmeriaid ar draws y tri sector.

£375.00 a TAW y flwyddyn.

Lawrlwytho ffurflen gais

Cwmni
Amdanon Ni
Ein Tim
Ein Cleientiaid
Newyddion
Blog
Oriel Luniau
Ymgyrchoedd Empower
Cysylltu â Ni

Hyfforddiant a Digwyddiadau
Cyrsiau hyfforddi bresennol
Holl cyrsiau hyfforddi
Hyfforddiant fewnol
Training Noticeboard
Gwasanaethau

Tystebau
Tystebau Hyfforddiant
Tystebau Cytundeb
Tystebau Cynhadledd
Cyfweliadau efo cleientiaid

Adnoddau
Archwiliad Iechyd Sefydliadol
Cyfweliadau Gyda Chyllidwyr
Webinarau
Archwiliad cyllid
Rhybudd e-bost am Gyllid
Pecyn teclynnau i ddatblygu partneriaethau
Awgrymiadau arbenigol am arddangosfeydd
What works in Community Involvement in area based initiatives?
Supporting Sustainability Through Digital Technologies

Ffôn: 01443 749787
Symudol: 07904 109277
Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd, Ty Menter, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN
© Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd (2012), Cedwir pob hawl

Gwefeistr | Map o’r safle | Polisi preifatrwydd

web design by steven marsh digital design