Bev Garside BA (hons) Cert Ed MIED
Cyfarwyddwr/Hyfforddwr/Asiant Newid
Mae’n hyfforddwraig gymwysedig (TAR o Brifysgol Oxford Brookes) ac yn asiant cymwysedig dros newid (Prifysgol Surrey). Mae wedi cyflwyno hyfforddiant i amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys carcharorion mewn carchar hynod ddiogel, oedolion gydag anawsterau dysgu ac asiantaethau yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol ar draws Cymru a Lloegr. Mae ei chefndir mewn adfywio wedi arwain at wneud enw iddi hi ei hun am ymyrryd a gwyrdroi rhaglenni adfywio anodd. Mae Bev ar banel ymgynghoriaeth arbenigol ar gyfer Datblygu Busnes; Rheoli Prosiectau a Rhaglenni; Asesiadau Effaith; Addysg a Hyfforddiant a Chydraddoldebau Asiantaeth Datblygu Llundain. Mae ganddi enw da am ddarparu hyfforddiant rhyngweithiol o ansawdd uchel sy’n hygyrch ac sydd yn ddefnyddiol yn y gweithle. Mae diddordebau Bev ym maes arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd personol ac mae’n datblygu cleientiaid ar draws pob sector y mae’n darparu cymorth o ran hyfforddiant a mentora ar eu cyfer.
""Ardderchog, enghreifftiau perthnasol a deniadol.Mae Bev Garside yn llawn brwdfrydedd, yn glir ac yn hawdd i’w deall – gwych ar gyfer dechreuwyr o fewn y maes.. Cyflwyniad rhagorol i nofydd. Wedi llwyr mwynhau pob agwedd, edrych ymlaen at weithredu yr hyn y ‘rwyf wedi ei ddysgu – hyfforddwr gwych – mae pob sefydliad angen Bev!"
Luke Burton Marchnata a gwerthu’n effeithiol: Ebrill 2011
"
Lexi Spencer
Swyddog Cynhadledd a Chynadleddau
Mae Lexi yn cynorthwyo gyda chydlynu cynadleddau a digwyddiadau y mae Empower yn eu trefnu a chymryd rhan ynddynt. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys cyfathrebu gyda sefydliadau a chynrychiolwyr i drefnu a sicrhau bod y digwyddiadau yn rhedeg yn llyfn a hefyd i fynychu digwyddiadau er mwyn hyrwyddo gwasanaethau Empower. Mwynheir Lexi rwydweithio gyda ffrindiau cyfredol a newydd o Empower ac mae’n ymroddgar i ddarparu'r profiad gorau i gynrychiolwyr sy’n ymweld â’n cynadleddau a digwyddiadau.
Ymunodd Lexi a’r tîm yn ddiweddar, wedi graddio o Brifysgol Fetrpolitan Abertawe gyda gradd anrhydeddus mewn Seicoleg a Chynghori. Tra yn y Brifysgol, bu’n cynrychioli’r Brifysgol yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Seicolegol Brydeinig ble iddi gyflwyno ei hastudiaeth Seicolegol. Ochr yn ochr â’i gwaith gyda Empower, mae hi hefyd yn Gynghorwr gwirfoddol gyda Childline Cymru. Mae’n rhugl yn y Gymraeg ac yn ymroddgar i waith sy’n anelu at wella rhagolygon y rhai o gefndiroedd difreintiedig a’r rhai gamgyfleuedig.
"[Jim Lee: Communities First Conference 2011] I was so impressed with our conference for it's layout, well organised, friendly well versed staff and guides. Plenty of stalls, really good workshops, well signposted and of course a good turn out. The planning was so good the conference was seamless. Thank you for all you help and support and great organisational skills. Excellent job!"
Helen McDowell
Programme Manager
Helen has worked in management for 22 years in recruitment and welfare to work. During this time she has developed a diverse set of skills, working with and supporting people back into work giving them the tools to succeed in their new roles. Providing excellent customer service is one of Helen's strongest assets as well as to give people the respect they deserve. With excellent people skills working with successful teams over the last 25 years, enjoying working with and helping people in all walks of life Helen fits right into the Empower team!
Jo Barton
Hyfforddwr/Adnoddau Dynol/Cydraddoldeb
Mae Jo wedi gweithio o fewn y sector gwirfoddoli a chyhoeddus ers 23 o flynyddoedd. Yn ystod yr amser yma mae wedi bod yn Gyfarwyddwr sefydliad sector gwirfoddol ac wedi bod yn gyfrifol am reolaeth weithredol nifer o dimoedd o fewn y sector gyhoeddus. Mae hi’n hyfforddwr cymwysedig gyda phrofiad o redeg rhaglenni hyfforddi cenedlaethol a hyfforddiant ar gyfer y sector gwirfoddol. Wedi cynrychioli cleientiaid o fewn y Tribiwnlys Cyflogaeth am 11 mlynedd mae Jo wedi defnyddio’r wybodaeth er mwyn hyrwyddo ei gwaith ar gyngor cyflogaeth ar gyfer rheolwyr a phwyllgorau’r sector gwirfoddol. Adrannau allweddol: Delio gyda hawliau tribiwnlys dichonol, cymorth gyda materion disgyblu a chwyno, drafftio dogfennau yn amrywio o bolisïau cydraddoldeb, recriwtio a chanllawiau dethol i delerau ac amodau cyflogaeth. Jo,hefyd, sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori wedi ei deilwra i’r sector gwirfoddol ar amrywiaeth o faterion cyflogaeth.
Ahsan Malik BSc MA
Rheolwr Prosiect/ Codwr Arian/Cynghorydd Busnes
Ers graddio ym 1995 gyda M.A. mewn Economeg mae Ahsan Malik wedi bod yn gweithio o fewn Rheolaeth ac Ymgynghoriaeth Prosiect ar raglenni ariannu amrywiol yn y DU a’r EU. Mae wedi gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r thrydydd sector gan gynnwys y byd academaidd yn dosbarthu mentrusrwydd o fewn ystod eang o adrannau sydd wedi datblygu unigolion a busnesau bach a chanolig gan gynnwys busnes cenedlaethol, arloesi, amrywiaeth, rheolaeth gweithrediadau rheolaeth cyffredinol. Mae Ahsan wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Prosiect i elusen dda-honedig rhyngwladol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig o fewn meysydd cyflogaeth, menter, iechyd a gofal cymdeithasol. Yn gynwysedig o fewn hyn oedd ymgymryd mewn gwerthuso ar raddfa enfawr prosiectau ac ariannu’r gan yr EU, rheolaeth prosiect, mynediad at gyllid ac ysgrifennu cynigion traws gwladol a DU ar gyfer cleientiaid (gyda graddfa llwyddiant uchel), a pharatoi cefnogaeth weinyddol/monitor/cyllidebu. Mae Ahsan hefyd yn Gynghorwr Rheolaeth Prosiect i nifer o fentrau a phrosiectau, yn cefnogi timoedd rheoli prosiectau i gyflwyno’n llwyddiannus i’r weinyddiaeth, adrodd ac anghenion ariannol y prosiectau a’r arianwyr gan gynnwys y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Clare Lucas
Hyfforddwr/Tai/Pobl ifanc
Mae Clare Lucas wedi bod yn ymglymedig a’r sector gwirfoddol ers rhai blynyddoedd mewn cynwysterau eang. Fel aelod o’r bwrdd, codwr arian ac ers 1995 yn aelod o staff mewn sefydliadau gwirfoddol eang, bach a mawr, mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau i wella ymarferiad a helpu i gynnig gwasanaethau effeithiol ac o ansawdd uchel. Mae ei chefndir yn gweithio gyda phobl ifanc ddigartref ac yn fwy diweddar ers cyflwyno Cefnogi Pobol 2003 mewn tai â chymorth. Mae hi’n hyfforddwr profiadol ar amrywiaeth o bynciau, gan arbenigo mewn sgiliau ar gyfer staff y rheng flaen.
Antonina Mendola
Hyfforddwr Cyswllt/Ymgynghorydd
Mae profiad Antonina o weithio o fewn y sector cymunedol/gwirfoddol yng Nghymru yn pontio 21 o flynyddoedd. Mae ei gwaith gydag adfywio wedi cynnwys dyfeisio, gweithredu a chydlynu rhaglenni menter arbennig ar gyfer phobol ifanc ac oedolion. Mae wedi gweithio gyda: Galon Uchaf, Gurnos, Penywaun, Perthcelyn, Gellideg, Twyncarmel, Brynrhedyn a Townhill. Ei hangerdd tuag at effaith polisïau ar gymunedau ac ymarferwyr arweiniodd hi at chwarae rhan flaengar mewn datblygu sefydliad Datblygu Cymunedol Gymru oll ac mae’n aelod o fwrdd Datblygu Cymunedol Cymru (CDC). Mae Antonina wedi gweithio o fewn tai â chymorth ble y datblygodd ei sgiliau trefniadaeth/rheolaeth. Tra’n rheolwraig ar “The Swansea Foyer” (hostel digartrefedd i bobol ifanc) chwaraeodd ran flaengar yn rhaglen addysg fewnol Grŵp Gwalia. Yn ddiweddarach ‘roedd ganddi gyfrifoldeb Rhanbarthol ar gyfer amryw o wasanaethau e.e. pobol â phroblemau iechyd meddwl, troseddwyr a phobol ddigartref ledled Powys. Mae hi bellach yn rhedeg ei chwmni ei hun sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i’r sector. Mae ei rhaglenni hyfforddi unigryw wedi eu comisiynu gan Genesis Cymru Wales, Cymorth I Fenywod Dyffryn Lliw, Cyswllt Cymunedol Duffryn ac Oxfam. Mae Antonina yn Ymarferydd Rhaglennu Ieithyddiaeth Niwro, mae ganddi Ddiploma ILM mewn Rheolaeth Uwch a Diploma Addysg Uwch mewn Addysg Gymunedol. Mae hi hefyd wedi cyd-ysgrifennu Datblygu Cymunedol yn Ne Cymru.
Gwion Jones
Ymgynghorydd
Mae gan Gwion ddealltwriaeth siarp a sgiliau rhyngbersonol gwych. Graddiodd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn athroniaeth o Brifysgol Nottingham ac mae wedi gweithio fel athro, heddwas a swyddog ansawdd a gwerthuso i awdurdod lleol. Mae wedi bod yn gweithio fel ymgynghorwr ers 2006 ac wedi arbenigo mewn cynllunio strategol, rheolaeth perfformiad a defnyddio dull rheolaeth prosiect o fewn busnes cyffredin. Dros y blynyddoedd diweddar mae wedi helpu nifer o wahanol gleientiaid i ddatblygu eu strategaethau, cynlluniau busnes a chynlluniau gweithredu. Mae ei waith ar werthuso wedi cynnwys hwyluso datblygu canlyniadau cyfrannol ar gyfer Bwrdd Partneriaeth a sefydlu fframwaith rheoli perfformiad i dystio’r effaith y mae’r Bartneriaeth yn wneud ar y canlyniadau hynny. Mae wedi ymgymryd â nifer o adolygiadau a gwerthusiadau ar gyfer cleientiaid gwahanol ar ôl datblygu ei fodelau syml ond pwerus sydd yn hwyluso’r gwaith. Fel cyflwynydd a hwyluswr profiadol , mae Gwion wedi trefnu a chyflwyno nifer o weithdai ar bynciau gwahanol. Mae ef yn rhugl a chroyw yn y gymraeg a’r Saesneg, ac yn gallu cyflwyno cynnyrch a gwasanaethau o ansawdd uchel yn nail ai iaith.
Trish Holland
Hyfforddwr Cyswllt/Ymgynghorydd
Mae gan Trish Holland mwy na 25 o flynyddoedd o brofiad mewn gweithio o fewn y sector gwirfoddol tra ar yr un pryd yn cysylltu â gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol. Ei meysydd arbenigol yw datblygu ieuenctid a chymuned o fewn ardaloedd canol dinas, codi arian elusennol, rheolaeth prosiect a digwyddiadau a safonau gofal preswyl yng Nghymru a Lloegr Gweithiodd am 17 o flynyddoedd yn sector codi arian Elusennol yn gweithio mewn rôl uwch reolwr i nifer o elusennau cenedlaethol. Mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr ar elusen plant bach gydag anghenion arbennig yng Nghymru. Drwy gydol yr amser mae hi wedi cael mynedfa at nifer o grantiau, wedi gweithio gyda nifer o gefnogwyr corfforaethol fel Barclays a Tesco, wedi cynhyrchu cynlluniau busnes, cyllidebau, systemau llif arian a dyfeisio strategaethau ar gyfer elusennau newydd. Mae ei sgiliau hefyd yn cynnwys recriwtio staff, cynhyrchu disgrifiadau swyddi, manylion personol a rheolaeth staff. O fewn ei rôl fel aseswr, ar hyn o bryd gyda Plant mewn Angen, Bwyd Lleol ac yn y gorffennol gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog, mae Trish wedi gallu defnyddio ei sgiliau a gwybodaeth o weithio gyda grwpiau Duon a Lleiafrifoedd ethnig o fewn ac o gwmpas gogledd Orllewin Lloegr a’r Canolbarthau. Am y 7 mlynedd diwethaf mae Trish yn Ymgynghorydd
hunangyflogedig llwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr amser hwn mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau mawr fel NSPCC ( Cymdeithas Genedlaethol Atal Creulondeb I Blant), Cynulliad Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac Achub y Plant ynghyd ac elusennau bach lleol a rhanbarthol.
Huw Thomas (Sglein)
Hyfforddwr/Hwylusydd/Siaradwr Cymraeg
Mae Huw wrth ei fodd yn cyfarfod a gweithio gyda phobol ledled Cymru, gwrando a rhannu gwybodaeth am fusnes, dwyieithrwydd a phopeth arall. Mae’n ymhyfrydu mewn rhoi help llaw ar roi sglein ar waith pobol, yn enwedig pan faent yn delio ag aelodau o’r cyhoedd. Wedi gweithio’n helaeth o fewn gwasanaeth cwsmer ar draws cynifer o sectorau, gweithiodd am flynyddoedd o fewn datblygu economaidd gan hogi ei sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a hyfforddiant. Mae ganddo brofiad eang o gyflwyno i gynulleidfa o bob maint ac ar bob lefel, o blant ysgol gynradd i gyfarwyddwyr a phrif weithredwyr. Dros y blynyddoedd mae Huw wedi creu a chyflwyno llu o weithdai llwyddiannus a chyrsiau ledled Cymru, ac mae’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i waith pobol ar draws y sectorau oll.
Sarah Richard (Sglein)
Hyfforddwr/Hwylusydd/Siaradwr Cymraeg
Mae Sarah yn credu mewn mwynhau pob diwrnod, amlhau potensial pobol i’r eithaf a chreu awyrgylch gweithio ardderchog a fydd yn y pen draw yn adlewyrchu ar y gwasanaeth cwsmer yr ydym yn ei roi. Credir mai’r brif ffordd at lwyddiant yw creu awyrgylch dda a chael agwedd bositif. Mae Sarah yn Hyfforddwraig Perfformiad cymwysedig a dechrau ei gyrfa ym myd bancio ble’r oedd ei swyddogaeth yn cynnwys cyfrifoldeb am ddadansoddi gwasanaeth cwsmer, monitro a dylanwadu perfformiad yn erbyn targedau yn ymdrin ag ystod eang o feini prawf , gweithredu a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant i staff ar bob lefel. Mae ganddi hefyd brofiad helaeth o ddatblygu a rheoli pobol ac mae wedi arwain nifer o dimoedd llwyddiannus. Mae’n gyfarwydd gyda dulliau hyfforddi effeithiol ac wedi cynllunio a rhedeg nifer o gyrsiau a gweithdai drwy’r Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog.
Angela Elniff-Larsen MBA. MSc PG Cert Ed, C&G & RSA Train the Trainer.
Hyfforddwr Cyswllt/Ymgynghorydd
Angela Elniff-Larsen Hyfforddwr ac Ymgynghorwr cymwys a phrofiadol sydd wedi casglu sgiliau mewn datblygu pobl; rheolaeth, hyfforddiant, strategol a chynllunio busnes dros 25 o flynyddoedd.
Mae’n hyfforddwr cymwysedig a chynghorwr sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi marched hyn yng Nghyngor chwaraeon Cymru, Merched mewn rheolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, merched mewn busnes ar gyfer Venture, Cymru, Ysgol Tŷ Cymru Blackburne ar gyfer Mentrwyr Cymdeithasol a Chyswllt Busnes Lerpwl.
Ei swydd olaf cyn mynd ar ei liwt ei hun oedd Cyfarwyddwr Cysylltiol (Adfywio a Datblygu Economaidd) yn ECOTEC Ymchwil ac Ymgynghori.
Bu’n rheoli’r swyddfa yng Nghymru a rheoli'r adran gwaith merched a theuluoedd yn y DU, Dwyrain Ewrop a Thwrci. ‘Roedd hi hefyd yn rhan o’r tîm uwch marchnata. O fewn y rôl hon ymgymerodd mewn hyfforddiant mewnol ar gyfer staff a chleientiaid allanol ar lefelau amrywiol. ‘Roedd hyn yn cynnwys dylunio a darparu rhaglen ar gyfer BURA ar gyfer uwch reolwyr mewn sefydliadau yn berthnasol i adfywio, adeiladu medr gyda menywod mentergar ar gyfer WECOE a hyfforddi cyfarwyddwyr mudiad gwirfoddol a Phrif Swyddogion Gweithredol yn Ne Ddwyrain Lloegr ar gyfer RISE.
Cyn ymuno a ECOTEC ‘roedd hi’n Brif Weithredwr Grŵp Menter Cymunedol Cymru. ‘Roedd hyn yn amgylchynu elusen, cwmni ymgynghori masnachol llawn a Chwmni Cyfyngedig drwy warrant a oedd yn rhedeg aelodaeth o dros 500 o fentrau cymdeithasol a’u cefnogwyr. Yn ystod y cyfnod hwn dyluniodd Angela a chynnal cyrsiau ar gyfer datblygu cymunedol, datblygiad personol, pendantrwydd, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chysylltiadau cyhoeddus, marchnata a datblygu busnes.
Mae gan Angela arbenigedd penodol mewn mentora a hyfforddi i fenywod. Adeiladu medr ar gyfer pobl. Sgiliau ar gyfer rheoli newid a llunio polisi. Mae ganddi brofiad helaeth o fewn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n cyfrannu’n gyson i gylchgronau cenedlaethol a chyhoeddiadau ac yn siaradwr gwadd mewn cynadleddau yn y DU ac Ewrop.
Owen Davies
Finance Officer
Owen has recently joined the Empower team as the Finance Officer, having previously worked in a variety of operational and customer service role. Owen is passionate about Empower’s work to support the Third Sector and is really looking forward to working with all the great organisation’s that Empower supports.
Owen combines his financial skills with a friendly and outgoing personality and a sense of fun which fits in perfectly at Empower. He also has qualifications in wine, which will be a great asset to the team!
Ffôn: 01443 749787
Symudol: 07904 109277
Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd, Ty Menter, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN
© Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd (2012), Cedwir pob hawl