Cofrestru | Pam Cofrestru? | Mewngofnodi
View this site in English

Mae Empower yn falch o gefnogi:

Amdanom ni

Tîm o unigolion yw Empower sy’n frwdfrydig am hyfforddiant a galluogi unigolion a mudiadau i gyrraedd eu potensial llawn.

‘Rydym yn gweithio ar draws pob ffin boed yn ddaearyddol neu’n sectoraidd a chredwn mai adeiladu partneriaethau effeithiol yw’r ffordd i bawb elwa.

Yma yn Empower ‘rydym yn edrych ar atebion creadigol i broblemau a rhannu’r creadigedd yma gyda’n cleientiaid. Ein henw da yw ein hased mwyaf gwerthfawr ac ‘rydym yn canolbwyntio ar gadw a gwella’r enw da hynny.

Canlyniad ein hymrwymiad i ddatblygu pobl ifanc yw creadigaeth Academi Empower sy’n cefnogi gwirfoddoli a chynnig cyfle i aelodau’r Academi cael mynediad at lefel uwch o fentora a hyfforddiant.

‘Rydym yn chwilio yn gyson am bartneriaid newydd a fu’n cynnig canlyniadau ennill: ennill i’r ddau, felly, os ydych yn meddwl bod yna gyfle am gyd-weithio yna dorrwch ganiad i ni. Buasem wrth ein bodd clywed gennych.

Mae ein cynadleddau yn cynnig cyfle unigryw i ddod a’r sectorau preifat; statudol a gwirfoddol at ei gilydd i rannu eu gwerthoedd.

‘Rydym yn anelu at fod y gorau yn yr hyn yr ydym yn ei wneud. Fe wnawn hyn drwy ddatblygu partneriaeth gydag asiantaethau sy’n rhannu ein gwerthoedd.

Eisiau ymuno a ni?

Dewch i gysylltiad â ni, buasem yn falch o glywed oddi wrthoch.

Bev Garside

Cyfarwyddwr

 

Dyma beth mae pobl yn ei ddweud am ein cyrsiau:

“Cwrs wedi ei gynllunio a’i weithredu yn dda. Roedd gan yr hyfforddwr elfen o hiwmor a rhoddai sylw i amseru; digon o wybodaeth i ychwanegu at y sleidiau.”
Ysgrifennu ceisiadau sy’n ennill a datblygu strategaeth codi arian effeithiol.

“Gwasanaeth ymatebol ardderchog sy’n hynod o broffesiynol. Mae swyddogion o sefydliadau eraill wedi dweud wrthyf pa mor dda yw Bev Garside a pha mor gyflym y mae’n cael gafael ar fanylion prosiectau cymhleth, naws a ffrydiau cyllido.”
Adran Datblygu Economaidd Cyngor Dosbarth West Lindsey

“Mae Empower wedi helpu Rhwydwaith Ymrymuso Cymunedol Derwentside drwy gyfnod o wrthdaro ac wedi ein helpu i ddod dros nifer o heriau ond eto wedi parhau i fod â ffocws ar y gwaith ac yn broffesiynol ac wedi ein helpu ni i fod yr un fath a thrwy hynny gyflawni ein nodau.”
Rhwydwaith Gymunedol Derwentside

“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn ag argymell Empower fel contractwyr hynod o addas mewn rolau sy’n gofyn am gymeriad ymroddedig, ymrwymedig a chadarn ar gyfer rôl allweddol mewn datblygu, gweithio ar neu gau prosiect penodol, neu yn wir ddarn generig o waith a all fod yn angenrheidiol.”
Prosiectau
Ymddiriedolaeth Gweithredu Llundain

Addysg Oedolion Bwrdeistref Hounslow yn Llundain

“Yr hyfforddiant gorau y bûm arno erioed.”
Cyfranogwr ar y cwrs Cynyddu eich Effeithiolrwydd Personol

“Rwy’n ystyried bod y pris a godir am ehangder y gwaith a wneir gan Empower yn werth ardderchog am arian.”
Cyngor Sir Northampton

“Mae ein gwasanaethau eraill hefyd yn cael canmoliaeth uchel gan sefydliadau statudol a rhai yn y sector gwirfoddol.”

Cwmni
Amdanon Ni
Ein Tim
Ein Cleientiaid
Newyddion
Blog
Oriel Luniau
Ymgyrchoedd Empower
Cysylltu â Ni

Hyfforddiant a Digwyddiadau
Cyrsiau hyfforddi bresennol
Holl cyrsiau hyfforddi
Hyfforddiant fewnol
Training Noticeboard
Gwasanaethau

Tystebau
Tystebau Hyfforddiant
Tystebau Cytundeb
Tystebau Cynhadledd
Cyfweliadau efo cleientiaid

Adnoddau
Archwiliad Iechyd Sefydliadol
Cyfweliadau Gyda Chyllidwyr
Webinarau
Archwiliad cyllid
Rhybudd e-bost am Gyllid
Pecyn teclynnau i ddatblygu partneriaethau
Awgrymiadau arbenigol am arddangosfeydd
What works in Community Involvement in area based initiatives?
Supporting Sustainability Through Digital Technologies

Ffôn: 01443 749787
Symudol: 07904 109277
Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd, Ty Menter, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN
© Empower - Cefnogaeth i’r Sector Gwirfoddol Ltd (2012), Cedwir pob hawl

Gwefeistr | Map o’r safle | Polisi preifatrwydd

web design by steven marsh digital design